---

House For Sale £295,000
Penllyn Road, Canton, Cardiff CF5


Description
Crynodeb

Yn dod i’r farchnad agored gyda Jeffrey Ross mae’r cartref teras canol dwy ystafell wely hardd hwn, wedi'i leoli ar Penllyn Road yng nghanol Treganna.

Mae'r cartref teuluol hwn yn cynnig yr holl gymeriad y byddech yn ei ddisgwyl, ynghyd â gardd gefn preifat, yn agos iawn i Stryd Fawr Treganna, canolfan siopa Lecwydd a Chanol y Ddinas. Mewn lleoliad delfrydol ar gyfer yr orsaf reilffordd a phrif gysylltiadau cymudwyr, ac yng nghanol bwrlwm cymdeithasol / ddiwylliannol un o faestrefi mwyaf poblogaidd Caerdydd.

Mae'r ty ei hun yn cynnwys cyntedd, ystafell fyw, ystafell deulu, cegin / ardal fwyta, ystafell ymolchi i'r teulu, dwy ystafell wely dwbl a gardd gefn preifat.

I drefnu gweld y ty, cysylltwch â Jeffrey Ross Pontcanna ar

Cyntedd

Gellir cyrraedd y cyntedd trwy ddrws ffrynt pren gyda gwydr. Mae gan y cyntedd lawr teils modern, gyda waliau wedi'u paentio'n rhannol ac wedi'u papuro’n rhannol, a gyda rheilen dado traddodiadol. Mae gan y cyntedd hefyd nenfwd traddodiadol uchel a ffitiad golau tua’r canol. Mae'r cyntedd yn agor i'r ystafell fyw, ystafell deulu, y gegin ac ardal bwyta tu hwnt.

Ystafell Fyw

Wedi'i leoli ym mlaen y ty, mae'r ystafell fyw yn cynnwys ffenestr fae sash gwydr dwbl UPVC, a stôf llosgi aml-danwydd. Mae'r ystafell fyw hefyd yn cynnwys llawr pren, waliau wedi'u paentio'n rhannol, a wedi'u papuro'n rhannol. Mae'r nenfwd wedi'i orchuddio â phapur gyda rhosyn nenfwd traddodiadol a ffitiad golau crog yn y canol. Mae gan yr ystafell fyw wal nodwedd a rheiddiadur.

Ystafell Deulu

Roedd yr ystafell hon gynt yn ystafell fwyta, ond mae'r ystafell deulu bellach yn cael ei defnyddio fel swyddfa ac mae iddi loriau gwyn wedi'u lamineiddio, a waliau wedi'u papuro a’u paentio a nenfwd gweadog gyda ffitiad golau crog yn y canol. Mae silffoedd wedi'u gosod yn alcof un ochr o’r simnai, a ffenestr wydr sengl ffrâm bren yn edrych i gefn y ty. Mae'r gan yr ystafell wal nodwedd wedi'i phaentio a rheiddiadur.

Cegin

Gyda mynediad drwy’r cyntedd, mae gan y gegin lawr teils gyda waliau a nenfwd wedi'u paentio a ffitiad golau sbot yn y canol. Mae i’r gegin ystod dda o unedau wal a llawr, bord gwaith pren, teils ar y cefnfwrdd, hob nwy pedair cylch smeg a ffwrn drydan smeg. Mae ffan echdynnu integredig uwchben yr hob, peiriant golchi llestri Beko integredig, golchwr / sychwr integredig, a lle ar gyfer rhewgell/oergell annibynnol. Mae'r gegin hefyd yn elwa o ffenestr wydr dwbl UPVC gyda golwg dros ochr y ty

Ardal Fwyta

Yn agored o’r gegin, mae gan yr ardal fwyta yr un llawr teils â'r gegin, waliau wedi'u paentio a nenfwd gyda golau tlws crog. Mae ffenestr wydr dwbl UPVC maint llawn i'r ochr, a drysau Ffrengig gwydr dwbl UPVC yn arwain at yr ardd gefn. Mae gan yr ystafell rheiddiadur a phwynt teledu wedi'i osod ar wal.

Llawr Cyntaf

O'r cyntedd, mae grisiau pren traddodiadol, wedi'u paentio'n ffasiynol a charped yn y canol yn rhoi mynediad i'r llawr cynta. O'r landin cyntaf mae'r ystafell ymolchi deuluol, i fyny ychydig eto mae'r ddwy ystafell wely, cwpwrdd pen staer traddodiadol a mynediad atig.

Ystafell Ymolchi

Wedi'i leoli oddi ar y landin gyntaf, mae ystafell ymolchi sydd a lloriau pren wedi'u stripio a'u paentio, ynghyd â wal nodwedd frics wedi'i phaentio. Mae gan yr ystafell ymolchi hefyd waliau a nenfwd wedi'u paentio gyda goleuadau sbot wedi'u mewnosod, bath annibynnol gyda chawod oddi ar y tapiau a chawod annibynnol. Mae sinc wedi'i osod ar wal gyda storfa islaw ac mae ‘na dy bach. Mae i'r ystafell ymolchi ffenestr wydr sengl â ffrâm bren i'r ochr a chwpwrdd awyru sy'n cynnwys boeler Gas Combi.

Ystafell Wely 2

Wedi'i leoli oddi ar yr ail landin, mae gan yr ail ystafell wely lawr pren wedi'i baentio, waliau wedi'u paentio, nenfwd gweadog gyda ffitiad golau crog. Mae wal nodwedd wedi'i phaentio, ffenestr wydr dwbl UPVC yn y cefn, a rheiddiadur.

Ystafell Wely 1

Wedi'i leoli ym mlaen y ty, mae gan y brif ystafell wely lawr pren wedi'i baentio, waliau wedi’u phapuro a’u paentio a nenfwd gyda ffitiad golau crog yn y canol. Mae'r ystafell hefyd yn cynnwys dwy ffenestr gwydr dwbl UPVC a rheiddiadur.

Tu Allan

O flaen y ty mae giât haearn yn arwain at gwrt gyda gwrych a llwybr teils traddodiadol. Mae'r llwybr yn arwain at gyntedd storm gyda theils traddodiadol ar y waliau. Yng nghefn yr eiddo mae llwybr teils terecota sy'n arwain at ochr y ty. Mae yna wely plannu ac ardal laswellt artiffisial a dwy goeden bae a gellygen aeddfed, ardal eistedd y tu allan a thy bach. Mae'r ardd yn wynebu’r gorllewin.

Daliadaeth

Credir bod yr eiddo hwn yn un Rhydd-ddaliad. Fe'ch cynghorir i gael cynrychiolydd cyfreithiol i wirio a chadarnhau'r wybodaeth hon.

Follow the link for more information:
        
zoopla.co.uk

  
Email notifications
If we find new offers or listing price updates in category Houses For Sale you will receive an email alert.


Search




- + Search

Request removal
Impressum